Mae’r Cynghrair Undebwyr Llafur a Sosialwyr (TUSC) yn sefyll yn
etholiadau Cyngor Abertawe ar 3 Mai. Rydyn ni’n wrthwynebu pob toriad!
Her TUSC yn etholiadau Cyngor Abertawe
Mae Cynghrair Undebwyr Lllafur a Sosialwyr (TUSC) yn sefyll ymgeiswyr yn
Abertawe yn yr etholiadau Cyngor ar 3 Mai ar raglan o wrthwynebu pob toriad,
pwy bynnag sy’n eu cyflawni. Mae’n hymgeiswyr yn addo bod yn llais dros
undebaeth llafur a sosialaeth yn yr etholiadau fel yr unig blaid sy’n galw ar
ein gwleidyddion i wrthod gwneud unrhyw toriad.
Mae llawer o undebwyr llafur a phobl dosbarth gweithiol yn teimlo bod
bron dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau mawr gan eu bod nhw i gyd yn cefnogi torri gwasanaethau, preifateiddio,
ymddiswyddo gweithwyr, ac ymosod ar ein amodau gwaith. Mae’n nhw’n ymddwyn mwy
a mwy fel wahanol adennydd o’r un blaid slebogaidd, wrth undebol a chefnogol o
gyfalafiaeth. Gwnaeth 13 blynedd o lywodraeth Lafur (with ohonynt gyda mwyafrif
o ddros 100) ddim niwed i ddeddfau wrth undebol Thatcher, gan ein gadael ni
gyda beth maw sawl sylwebydd wedi disgrifio fel y cyfreithiau mwyaf rhwystrol
yn erbyn undebau llafur yn y Gorllewin.
Mae rhai yn ceisio’n perswadio bod y Blaid Lafur, yma yng Nghymru, yn
wahanol er ei bod wedi ei hethol ar yr un raglen. Felly sut ydyn nhw’n
esbonio’r ffaith fod dim ond dau Aelod Seneddol o Gymru oedd yn barod i herio’u
plaid a phleidleisio dros gynnig John McDonnell yn San Steffan i ailsefydlu’r
mynegai chwyddiant dros bensiynau cyhoeddus i RPI yn hytrach na CPI?
Dylen ni ddim anghofio chwaith mai cynghorau Llafur dechreuodd y bolisi
o fygwth ymddiswyddo gweithwyr fel ffordd o ddinistrio amodau gwaith
cenedlaethol gweithwyr Cyngor, bolisi mae cynghorau ledled y Deyrnas Unedig yn
cyflawni trwy’r Rhybuddion 188 drwg-enwog.
Mae’n hyngeiswyr yn cynnwys undebwyr llafur sydd wedi brwydro yn yr un
ffordd yn erbyn y lywodraeth Con Dem bresennol a’r lywodraeth Lafur gynt.
“Fel aelod o’r undeb UNSAIN gyda pensiwn lywodraeth leol, rydw wedi mynd
ar streic ddwywaith i amdddifyn fy mhensiwn, unwaith o dan y lywodraeth Con Dem
bresennol ac unwaith o dan y lywodraeth Lafur gynt. Teimlodd yr un fat hi
ddweud y gwir. Mae angen llais wleidyddol arnon ni bydd yn cynrychioli undebwyr
llafur sy’n brwydro i amddiffyn gwasanaethau, swyddi ac amodau a thelerau
gwaith.”
Ronnie Job, ymgeisydd
TUSC dros ward Sgeti
Mae’r lywodraeth Con-Dem yn benderfynol i ddinistrio Remploy sy’n rhoi
gwaith gyda chefnogaeth i weithwyr anabl. Mae 36 allan o 54 ffatri Remploy wedi
eu clustnodi i gau yn yr haf, gan ymddiswyddo dros 1,700 o weithwyr anabl. Mae
gweithwyr Remploy yn brwydro yn erbyn y toriadau creulon, gan ddefnyddio’r
profiad o’r brwydr yn 2008 yn erbyn rhaglen y lywodraeth Lafur i gau
ffatrïoedd. Mae Les Woodward, yr ymgeisydd TUSC dros Tregwyr, ac yn cynullydd
Consortiwm Undeb Llafur Remploy, yn dweud does dim dewis gan undebwyr llafur
Remploy ond wrthdystio.
“Gyda swyddi mewn peryg, budd-daliadau yn cael eu cwtogi, a dim
posibilrwydd o gael gwaith, does dim dewis i weithwyr Remploy ond i frwydro i
amddiffyn eu swyddi a’u ffatrïoedd ac mae’n brwydr bydden ni’n cymryd yn syth
at y lywodraeth. Nid yw ffatrïoedd Remploy ar werth nac am gau.”
Les Woodward, ymgeisydd
TUSC candidate dros ward Tregwyr
Mae trechiad syfrdanol y Blaid Lafur yn Bradford West yn dangos bod pobl
dosbarth gweithiol yn daer am ddewis arall i gonsensws y pleisiau mawr bod y “toriadau
yn anghenrheidiol”. Mae unigolion cyfoethog a’r corforraethau mawr yn osgoi
talu dros £120bn y flwyddyn felly pam ddyle pobl dosbarth gweithiol talu am
argyfwng dydyn ni ddim yn gyfrifol am greu? Dydy toriadau ddim yn
anghenrheidiol nac yn anochel; beth bynnag yw canllyniad yr etholiadau bydd
cefnogwyr TUSC yn Abertawe yn ddal i adeiladu mudiad yn erbyn yr holl toriadau,
gan ddod ag undebwyr llafur a’n cymunedau lleol at ei gilydd i drechu’r
toriadau a lywodraeth y cyfoethog dros y cyfoethog.
Pleidleisiwch TUSC ar 3 Mai!
I gael rhagor o wybodaeth:
Cynrychiolydd etholiadol:Alec Thraves 01792 476246 socialistpartywales@btinternet.com
Blog etholiadol TUSC Abertawe:http://tuscswansea.blogspot.co.uk
No comments:
Post a Comment
Comments welcomed!