Swansea needs councillors who vote against cuts! No to austerity - vote Trade Unionist and Socialist Coalition (TUSC).

Don’t waste the opportunity to send a clear ‘no more cuts’ message by voting for Ronnie Job, TUSC: the only no-cuts, socialist candidate in Swansea West in the 2015 General Election!

Ynglyn â TUSC Abertawe

Mae’r Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr yn sefyll yn yr etholiadau i Gyngor Abertawe ar 3 Mai. Rydyn ni’n gwrthwynebu pob toriad!

Ynglyn â TUSC Abertawe

Mae ‘r Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr, fel mae’r enw yn awgrymu, yn grŵp o bobl o wahanol pleidiau neu dim plaid sydd gan yr un bwriad – i sicrhau ein bod ni’n herio consensws presennol y pleidiau mawr i gyd dros toriadau.

Does dim angen cael toriadau; pob blwyddyn mae’r cyfoethocaf a’r corfforaethau mawr yn osgoi talu trethi werth dros £120bn (yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon). Dyma arian y gellir wario ar y GIG, ar addysg ein plant, ar wasanaethau cyngor ac ar les.

Dydy toriadau ddim yn anochel nac yn di-droi’n-ȏl; buasai gwrthdystio yn seiliedig ar weithwyr undebol ac yn cynnwys ymgyrchwyr yn erbyn y toriadau yn gadael agenda’r llywodraeth mewn deilchion. Hefyd gellir disodli’r glymblaid wan a diegwyddor o filiwnyddion dros filiwnyddion. Mae ymgeiswyr TUSC yn sefyll fel rhan o strategaeth i adeiladu ymgyrch o’r fath. Beth bynnag yw canlyniadau’r etholiad bydden ni’n cario ymlaen a’r brwydr yn ein cymunedau, ein gweithleoedd ac yng nghangennau’n undebau.

Edrychwch o gwpas Abertawe – mae pobl dosbarth gweithiol yn dioddef ar ȏl llai na dwy flynedd o lywodraeth Con Dem – mae Gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe, Ysgol Gymunedol Daniel James a Chanolfan Seibiant Earlsmoor i gyd wedi cau. Efallai’r toriad mwyaf dideimlad yw’r cynllun i gau 36 ffatri Remploy, yn cynnwys y ffatri yn Fforestfach, gan ymddiswyddo gweithwyr anabl a’u condemnio i fywyd ar fudd-daliadau. Mae amodau gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu dwyn ac mae’r llywodraeth yn ceisio dod â chyflogau rhanbarthol i mewn. Rydyn ni i gyd yn wynebu dinistriad gwasanaethau a’r GIG. Mae’n anhygoel i sylwi nad yw’r Con Dems wedi cyflawni un rhan o ddeg o’u toriadau arfaethedig.

Ond un peth yw cynllunio toriadau a pheth aral yw eu cyflawni. Pasiwyd Treth y Pen gan lywodraeth Thatcher gyda mwyafrif seneddol llawer cryfach na Cameron ond chwalwyd Treth y Pen a gyrfa Thatcher gan ymgyrch torfol yn erbyn talu’r treth.

Mae angen yr un fath o wrthdystio torfol nawr ac mae ymgeiswyr TUSC yn credu mai dim ond trwy wrthwynebu pob toriad y ddaw’r undod i greu’r fath mudiad.

Mae’n egwyddor undebol sylfaenol bod ‘anaf i un yn anaf i bawb’. Os ydych chi’n derbyn bod rhai toriadau yn anochel mae’n rhaid i chi dewis rhwng ymddiswyddo gweithwyr iechyd neu gweithiwr addysg a dewis pa gwasanaethau i gadw a pha rhai i gwtogi. Mae rhai’n dadlau bod hi’n well i’r toriadau cael eu gwneud ganlywodraeth Lafur new Cyngor Llafur – wel, fel aelod o’r undeb UNSAIN yn yr LGPS, bu rhaid i mi mynd ar streic o dan y lywodraeth Con Dem bresennol a’r lywodraeth Lafur gynt i amddiffyn fy mhensiwn – teimlais i ddim gwahaniaeth! Os ydyn ni’n dweud bod rhai toriadau’n anochel bydd rhaid i ni penderfynu pa swyddi a gwasanaetau i gwtogi. Dydy ymgeiswyr TUSC ddim yn fodlon gwneud hynny. Os ydych chi eisiau brwydro yn erbyn pob toriad ymunwch â ni i helpu’n ymgyrch etholiadol.

I gysylltu â ni, e-bostiwch ron.job@sky.com neu gadewch sylw ar ein pyst diweddaraf.

No comments:

Post a Comment

Comments welcomed!